Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Croeso i Awtistiaeth Cymru

Helpu i wella bywydau pobl awtistig a’u teuluoedd yng Nghymru.

Croeso i Awtistiaeth Cymru, y safle awtistiaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ar y safle fe ddewch o hyd i wybodaeth ynghylch beth yw awtistiaeth, a pa wasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru. Mae’r wefan yn helpu darparu gweledigaeth a strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru ac mae ganddi ran allweddol mewn sicrhau fod Cymru yn wlad sy’n deall awtistiaeth.

Mae yna hefyd ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl awtistig, rhieni/ gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod awtistiaeth yn effeithio ar 1 o bob 100 o bobl. Gyda’n gilydd, gallwn helpu gwella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am awtistiaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a pharhaol i fywydau pobl.

Os ydych eisiau cysylltu â ni, defnyddiwch y dydalen gyswllt. Er mwyn gweld yr wybodaeth ddiweddaraf ac i ganfod beth sy’n digwydd yng Nghymru, ymwelwch a’n hadran newyddion yn rheolaidd a sicrhewch eich bod yn ein dilyn ar Twitter a Facebook.

Newyddion Diweddaraf

Digwyddiadau Lansio Canolfan Awtistiaeth Castell-nedd Port Talbot

Llywodraeth Cymru – Datganiad Ysgrifenedig: Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth

WARC News – New French translation of autism SIGNS film will ‘help more families and further public understanding’

Rwy'n berson awtistig

Datblygwyd amrediad o adnoddau defnyddiol gyda phobl awtistig. Gall y rhain helpu gyda gweithgareddau a chynlluniau o ddydd i ddydd.

Rhieni & Gofalwyr

Datblygwyd yr wybodaeth yn yr adran hon gyda phobl awtistig, rhieni/ gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol. Mae’r adnoddau wedi eu hanelu i gynyddu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth o awtistiaeth ac arfau ymarferol i rieni/ gofalwyr pobl awtistig.

Addysg

Datblygwyd cyfres o adnoddau ar gyfer cyfnodau allweddol addysg. Mae’r adnoddau’n cynnwys gwybodaeth i gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ac hefyd i ddatrys y rhwystrau all wynebu dysgwr awtistig.

Cyflogaeth

Datblygwyd cyfres o adnoddau wedi eu hanelu at ddewis yr yrfa neu swydd gywir, sicrhau a chadw gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys arfau ymarferol i’r person awtistig a darpar gyflogwyr/ cyflogwyr presennol.

Gwasanaethau Cymunedol

Mae’r adnoddau yn yr adran hon wedi eu datblygu mewn partneriaeth a phobl awtistig, rhieni/ gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.  Nod yr adnoddau yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol mewn ystod o feysydd gwasanaeth am awtistiaeth.